Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 23 Mai 2017

Amser y cyfarfod: 12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4292


71

<AI1>

Cofnod y Trafodion

Gweld Cofnod y Trafodion

 

</AI1>

<AI2>

Datganiad ar yr ymosodiad ym Manceinion

Dechreuodd yr eitem am 12.30

Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.

 

</AI2>

<AI3>

1       Teyrngedau i’r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan

Dechreuodd yr eitem am 12.34

Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, Arweinwyr y Pleidiau eraill ac Aelodau i wneud cyfraniadau. Yn dilyn hynny, galwodd y Llywydd ar Julie Morgan i siarad, cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.

Am 13.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 12 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.

 

</AI3>

<AI4>

2       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 14.05

Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 - 9. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI4>

<AI5>

3       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.51

 

</AI5>

<AI6>

4       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i Drwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Dechreuodd yr eitem am 15.05

 

</AI6>

<AI7>

5       GOHIRIWYD - Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Plant yn Gyntaf / Children First

 

</AI7>

<AI8>

6       SYMUDWYD I 24 MAI - Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru

 

</AI8>

<AI9>

7       SYMUDWYD I 24 MAI - Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru

 

</AI9>

<AI10>

8       Dadl: Presgripsiynu Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;

2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM6314 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;

2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru;

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl; a

4. Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

Derbynwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

 

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod pleidleisio

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 16.37

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 24 Mai 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>